Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 23 Mai 2022
Amser:
14.00 -
15.33
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12836
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Jack Sargeant AS (Cadeirydd) Luke Fletcher AS Joel James AS Buffy Williams AS |
Tystion: |
Alex Nilan, Almost Home Dog Rescue Alain Thomas, Achub Milgwn Cymru Vanessa Waddon, Hope Rescue |
Staff y Pwyllgor: |
Gareth Price (Clerc) Mared Llwyd (Ail Glerc) Kayleigh Imperato (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
Datganodd Luke Fletcher ei fod yn aelod o Achub Milgwn Cymru.
2 Sesiwn dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Vanessa Waddon, sylfaenydd Hope Rescue, Alain Thomas, sylfaenydd Achub Milgwn Cymru, ac Alex Nilan, Cadeirydd Almost Home Dog Rescue.
3 Deisebau newydd
3.1 P-06-1252 Galw ar Lywodraeth Cymru i beidio brechu plant 12 oed ac iau yn erbyn COVID-19
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, Sefydliad Iechyd y Byd a’r Canolfan Ewropeaidd ar gyfer Rheoli Clefydau, gan gytuno i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.
3.2 P-06-1270 Gwnewch Hydref 21ain yn Ddiwrnod Coffa swyddogol i'r rhai a laddwyd ac a effeithiwyd gan Drychineb Aberfan.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn iddi ystyried ymhellach y cais am ddiwrnod cofio neu ddiwrnod coffa ar gyfer y rhai a laddwyd mewn trychinebau diwydiannol a thrychinebau mwyngloddio yn hytrach na gŵyl banc ddynodedig.
3.3 P-06-1273 Lleihau amseroedd aros am ambiwlansys ac mewn adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn ddirfawr
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nodwyd yr amgylchiadau anodd a arweiniodd at y ddeiseb hon, a’r ffaith druenus nad yw'r profiad yn unigryw i'r deisebydd. Nododd y Pwyllgor fod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cynnal ymchwiliad yn ddiweddar i amseroedd aros mewn ysbytai ac amseroedd aros ambiwlansys. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gadw llygad ar y ddeiseb wrth aros i'r adroddiad Iechyd a Gofal Cymdeithasol gael ei gyhoeddi ac i Llywodraeth Cymru ymateb.
3.4 P-06-1274 Rhowch stop ar y camau i amddifadu Trefynwy o’i Cherbyd Ymateb Cyflym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ofyn am ymateb i’r materion a amlygwyd gan y deisebydd, i ganfod a ystyriwyd yr holl ddata perthnasol a sut yr ymgynghorwyd â darparwyr iechyd lleol a gwasanaethau brys fel rhan o'r gwaith hwn.
3.5 P-06-1275 Galw ar y Llywodraeth i ail-ystyried eu penderfyniad i dynnu nôl o gynllun ffordd osgoi Llanbedr
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gadw llygad arni wrth aros i gynllun newydd gael ei gyhoeddi yn dilyn yr Adolygiad Ffyrdd.
3.6 P-06-1277 Achub yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys. Rhaid i Ysbyty Cyffredinol Llwynhelyg gadw gofal brys 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, dan arweiniad meddyg ymgynghorol
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Bwyllgor Busnes y Senedd i ofyn am ddadl yn y Cyfarfod Llawn.
4 Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol
4.1 P-05-924 Sicrhau bod Llysgenhadon Llesiant ym mhob ysgol yng Nghymru
Cyn y cyfarfod, gwyliodd y Pwyllgor fideo gan y llysgenhadon llesiant, a oedd wedi ymweld â’r Senedd yn ddiweddar. Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu’n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn a fu unrhyw ddatblygiadau pellach ers mis Tachwedd 2019, ac yn benodol ynghylch a yw’r canllawiau gwrth-fwlio a’r fframwaith dull ysgol gyfan ar waith.
4.2 P-05-1106 Cyflwyno cyllidebau iechyd personol a gofal personol yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn mynegi pryder ynghylch y methiant i sicrhau annibyniaeth unigolion a rheolaeth dros eu darpariaeth gofal. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ofyn iddi:
4.3 P-06-1213 Dylid gwahardd defnydd hamdden o Seadoo/sgïo jet yng Nghymru. Ac eithrio mewn ardaloedd dynodedig a reolir yn llym
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gadw llygad ar y ddeiseb wrth aros i ganfyddiadau ymgynghoriad y DU gael eu cyhoeddi ynghylch a ddylai'r mathau hyn o gychod fod o fewn cwmpas darpariaethau'r Ddeddf Llongau Masnachol.
4.4 P-06-1240 Gwella gwasanaethau iechyd i bobl ag epilepsi sy'n byw yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro bod gan bob bwrdd iechyd lefel briodol o gymorth angenrheidiol.
Hefyd, cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru i ofyn pa wasanaethau ac adnoddau sydd ar gael i ddiwallu anghenion pobl ag epilepsi, ac a oes unrhyw fylchau o ran gwasanaethau ac adnoddau ar hyn o bryd.
4.5 P-06-1242 Gwella Gofal Iechyd Endometriosis yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i ysgrifennu'n ôl at Lywodraeth Cymru i ofyn am atebion i'r pryderon ac i ofyn cwestiynau pellach a godwyd gan y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor hefyd y byddai’n cefnogi’r alwad i godi ymwybyddiaeth o endometriosis ac yn ysgrifennu at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a phrifysgolion Cymru i dynnu sylw at fylchau yn y data er mwyn helpu i wella ansawdd yr ymchwil i endometriosis.
4.6 P-06-1243 Adfer sgrinio serfigol i bob tair blynedd
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd i gau'r ddeiseb, gan longyfarch y deisebydd ar dynnu sylw at y mater hynod bwysig hwn, a thrwy wneud hynny sicrhau bod y ffeithiau'n cael eu hegluro, eu rhannu a'u hysbysebu'n eang.
5 P-06-1207 Dechreuwch gyfeirio at ddinasoedd a threfi Cymru yn ôl eu henwau Cymraeg
Nodwyd y papur.
6 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
Derbyniwyd y cynnig.
7 Trafod y dystiolaeth - P-06-1253 Gwahardd rasio milgwn yng Nghymru
Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a glywyd a chytunwyd y byddai’n parhau i gymryd tystiolaeth ar y ddeiseb hon.
8 Trafodaeth ar yr Adroddiad Blynyddol drafft
Trafododd y Pwyllgor yr Adroddiad Blynyddol drafft a chytunwyd i gyhoeddi hwn fel trosolwg o waith y Pwyllgor yn ystod ei flwyddyn gyntaf.